Cartref | Cysylltwch â ni | Map o'r wefan | English
Cartref > Y Diweddaraf
 

02 Chwefror 2011
Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth

‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth’ a chyflwyniad byr: Cyflwynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau araith ar 2 Chwefror yn dwyn y teitl ‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth’. Ynddi amlinellodd gynllun gweithredu manwl i godi safonau addysg yng Nghymru. Nodwyd hefyd 20 cam allweddol i’w cymryd yn ddi-oed. I gael rhagor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen isod:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/allsectorpolicies/
ourevents/teachingmakesadifference/?lang=cy

02 Chwefror 2011
Penodi Dr Brett Pugh i arwain yr Uned Safonau

Yn ei anerchiad ‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth’ ar 2 Chwefror 2011, cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, gynllun gweithredu 20 pwynt i godi safonau a pherfformiad mewn ysgolion ledled Cymru. Yn eu plith roedd sefydlu Uned Safonau i helpu i wella addysg yng Nghymru. Cafodd Dr Brett Pugh, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Casnewydd, ei secondio i arwain yr uned. Gwaith yr uned fydd datblygu prosesau i fonitro, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad. Bydd hefyd yn rhoi cymorth wrth weithredu’r system ac yn ei herio a bydd yn rhoi adroddiadau rheolaidd i’r Gweinidog wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

http://wales.gov.uk/newsroom/educationandskills/2011/110321standards/?lang=cy

01 Hydref 2010
Papurau byr ac Astudiaethau Achos

Mae FfEY yn cyhoeddi cyfres o bapurau byr i’ch helpu i ddeall y gwaith a wneir o dan y 6 ffactor allweddol i gefnogi’r Blaenoriaethau Cenedlaethol ( mwy...)

Rydym hefyd yn cyhoeddi nifer o astudiaethau achos i roi enghreifftiau o arfer da ysgolion ar draws Cymru sydd ag amgylchiadau economaidd-gymdeithasol amrywiol ( mwy...)

Mae’r papurau hyn ar gael o dan Dogfennau Allwleddol. Fel arall, defnyddiwch y dolenni uchod.

01 Hydref 2010
Datblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu

Yn 2005, fe wnaeth APADGOS sefydlu ac ariannu rhaglen ar gyfer datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu gan gydweithio mewn partneriaeth â chlystyrau o ysgolion ac ymgynghorwyr yr Awdurdodau lleol. Canolbwyntiodd y rhaglen ar ddatblygu, gweithredu a lledaenu arferion da wrth addysgu strategaethau datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu.( mwy…)

Cyflwyno Setiau Data Graidd Cymru Gyfan

Mae Llwyddiant y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn ddibynnol ar nifer o egwyddorion pwysig, gan gynnwys:

  • systemau hunanwerthuso cadarn

  • y defnydd a wneir o ddata a gwybodaeth reoli er mwyn nodi cryfderau a gwendidau; ac

  • yr angen i gydweithio a dysgu - y naill oddi wrth y llall.

Er mwyn ein helpu i droi’r egwyddorion hyn yn arferion effeithiol, rydym wedi datblygu set genedlaethol o ddata craidd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyhoeddwyd pecynnau unigol o ddata am y tro cyntaf i ysgolion yn ystod tymor yr hydref 2009 er mwyn ategu’r amserlenni hunanwerthuso a gosod targedau. Roedd y pecynnau’n cynnwys dadansoddiadau o asesiadau athro diwedd cyfnodau allweddol 1, 2 a 3, presenoldeb, arholiadau allanol cyfnod allweddol 4 a Gwerth Ychwanegol (ar gyfer ysgolion uwchradd). Mae cynnwys y pecyn yn ddarluniadol ei natur gyda thueddiadau yn cael eu dangos lle bo modd.( Darllenwch ymlaen)

Ymgysylltu â Theuluoedd

Yn ôl tystiolaeth, po fwyaf rydym yn cynnwys rhieni mewn ysgolion y mwyaf y gallwn wella lles ein plant a'n pobl ifanc. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at well canlyniadau dysgu a gwell cyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth foesol ar ysgolion i ddod o hyd i fwy o ffyrdd newydd o gynnwys teuluoedd yn addysg eu plant. ( Darllenwch ymlaen)