Yn 2005, fe wnaeth APADGOS sefydlu ac ariannu rhaglen ar gyfer datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu gan gydweithio mewn partneriaeth â chlystyrau o ysgolion ac ymgynghorwyr yr Awdurdodau lleol. Canolbwyntiodd y rhaglen ar ddatblygu, gweithredu a lledaenu arferion da wrth addysgu strategaethau datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu.
Prif nodau’r rhaglen oedd:
gwella perfformiad disgyblion
ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu
newid arferion y dosbarth a thrwy hynny wella addysgeg
cynyddu amlder y gwersi creadigol.
Dewiswyd naw ALl ynghyd â grwp o ysgolion arbennig i gymryd rhan yn y rhaglen. Dros gyfnod o dair blynedd, buom yn cydweithio ag ymgynghorwyr yr ALlau ac athrawon mewn ysgolion i ddewis strategaethau addas i’w defnyddio mewn ysgolion penodol, ac i fonitro a gwerthuso cynnydd.
Yn Ionawr 2009, yn diliyn gwethusiad allanol o’r peilot, estynnodd APADGOS y rhaglen i bob rhan o Gymru trwy wahodd pob awdurdod lleol i geisio am grant arian cyfatebol. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol enwebu 50 o athrawon arweiniol a chydweithio mewn partneriaeth ag APADGOS i hyfforddi a mentora’r rhain yn y flwyddyn gyntaf. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn yr ail flwyddyn.
Mae’r cynllun estynedig yn seiliedig ar y dull partneriaeth tair lefel a ddefnyddiwyd yn y cynllun peilot. Mae athrawon arweiniol o’r awdurdodau lleol yn cael eu hyfforddi gan ymgynghorwyr yr awdurdod a’u mentora gan swyddogion APADGOS, o fewn cymunedau dysgu proffesiynol.
Ceir manylion pellach a’r:
GCaD Cymru
http://www.gcad-cymru.org.uk/dtaafl/
Llywodraeth Cynulliad Cymru
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/
curriculuminwales/thinkingandassessmentforlearning/?lang=cy