Y Rhaglen Beilot
Cafodd rhaglen ragbrofol ysgolion FfEY ei chynnal o fis Medi 2008 tan fis Gorffennaf 2009, a bu 96 ysgol ledled Cymru yn cymryd rhan ynddi. Fe hyfforddwyd deg ar hugain o aelodau cyswllt i weithio â’r ysgolion rhagbrofol, yn unigol ac mewn grwpiau hefyd.
Penaethiaid neu weithwyr proffesiynol gwella addysg sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd oedd yr aelodau cyswllt hyn; fe wnaethant weithio gyda’r ysgol er mwyn eu cynorthwyo i lunio rhwydweithiau arfer proffesiynol.
Y nod oedd gwerthuso cryfderau’r ysgolion a’r meysydd i’w datblygu, rhestru’r arfer da gyda’r bwriad o rannu hyn ledled y grwp.
Fe ddilynwyd dau fodel – mae braslun ohonynt i’w gael ar y tudalennau nesaf.