Cartref | Cysylltwch â ni | Map o'r wefan | English
Cartref > Cyfiawnder Cymdeithasol
 

Mae Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu diwylliant dysgu sy’n helpu i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.  Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn sail gadarn ar gyfer dod â pholisïau at ei gilydd i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol ac anfantais economaidd-gymdeithasol.  Mae ymchwil wedi dangos ers tro byd mai anfantais economaidd-gymdeithasol yw’r un rhwystr mwyaf o’r cyfan i gyflawni mewn addysg, ac ar hyn o bryd mae tlodi yn effeithio ar un o bob tri o blant a phobl ifanc Cymru.  

Ers 2006, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mynd i’r afael â’r broblem hon gyda’i rhaglen Rhagori, sy’n ymwneud â hybu cyrhaeddiad a safonau unigol mewn addysg. Mae Rhagori wedi ariannu ysgolion mewn ardaloedd anoddach na’i gilydd, er mwyn archwilio dulliau cynaliadwy o wella cyraeddiadau disgyblion dan anfantais.  Yn ychwanegol, mae wedi rhoi rhagor o arian i awdurdodau lleol ar gyfer gwella rhagolygon plant sy’n derbyn gofal.  

Un o flaenoriaethau presennol Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau bod lle amlwg wrth weithredu’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, i’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen Rhagori. Mae’r grant Rhagori wedi rhoi cryn bwyslais ar:

  • hybu rhwydweithio, fel bod ysgolion yn gweithio’n agos nid yn unig o fewn eu clystyrau, oddi mewn i’w cymunedau a gydag asiantaethau lleol, ond hefyd yn genedlaethol; a

  • sefydlu dulliau arloesol, effeithiol a chynaliadwy trwy ein system addysg.  

Mae rhannu a lledaenu canlyniadau’r prosiect Rhagori wedi eu hwyluso trwy sefydlu gwefan Rhagori, sy’n darparu astudiaethau achos, canllawiau arfer da ac adroddiadau i lywio ein dealltwriaeth o strategaethau sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni.  Caiff canlyniadau pedwaredd flwyddyn a blwyddyn derfynol Rhagori eu cyhoeddi yma.  Bydd y rhain yn darparu adnodd cyfoethog o ganllawiau yn ein hymgyrch barhaus i ddileu tangyflawni ymysg y mwyaf agored i niwed o blith ein plant a’n pobl ifanc.  Yn benodol, bydd y wefan yn darparu adroddiadau gwerthuso ar yr holl fentrau a ariannwyd gan Rhagori yn 2009-2010.