Cartref | Cysylltwch â ni | Map o'r wefan | English
Cartref > Dogfennau Allweddol > Teaching makes a difference
 
Teaching makes a difference

"Does dim esgus am berfformiad gwael" yw barn bendant y Gweinidog dros Addysg

"Mae ein pobl ifanc yn haeddu gwell. Ac rwy'n credu ein bod yn gallu gwneud yn well," meddai'r Gweinidog dros Addysg mewn araith bwysig (20/02/2011).

Yn ei araith "Mae addysg yn gwneud gwahaniaeth," esboniodd Leighton Andrews sut mae'n bwriadu delio'n gadarn â'r problemau sy'n bodoli yn y system addysg yng Nghymru.

Addawodd y byddai ef ei hun yn ymwneud fwy â'r broblem, i greu rhaglen glir i fynd i'r afael â hi ac i nodi targedau clir i fesur gwelliant – gan gynnwys anelu at fod ymhlith yr 20 system ysgolion uchaf ar dabl sgoriau PISA yn 2015.

Meddai'r Gweinidog:

"Mae hawl pob unigolyn i gael addysg ac i gyrraedd ei botensial llawn wedi bod yn rhan ganolog o'n diwylliant modern yng Nghymru.

"Bydd angen amser arnon ni i gymryd llawer o'r camau angenrheidiol ac ni allwn wneud hynny ar chwarae bach. Bydd gofyn inni fod yn onest, rhoi arweiniad a bod yn atebol.

"Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rydyn ni'n sôn yn aml am hawliau plant a phobl ifanc. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddisgwyl addysg o ansawdd uchel a bod eu hysgolion yn cyrraedd y safonau uchaf.

"Byddwn yn gosod safonau uchel ac yn anelu at eu cyrraedd. Ni fyddwn yn derbyn esgusodion am berfformiad gwael."

Teaching makes a difference - 2 February 2011, Reardon Smith Theatre, Cardiff