Cartref | Cysylltwch â ni | Map o'r wefan | English
Cartref > Plant a Phobl Ifanc
 

Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion – Pam mae’n bwysig i chi
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am i bob ysgol yng Nghymru fod yn lle diogel a hapus lle gall plant a phobl ifanc wneud eu gorau a dysgu llawer o bethau mewn gwahanol ffyrdd.

Yn ein barn ni, mae hyn yn fwyaf effeithiol pan fo’r llywodraeth, cynghorau lleol ac ysgolion yn cydweithio.

Mae’r pizza isod yn dangos sut y gall eich ysgol chi fod yn ysgol wirioneddol dda. Dyma‘r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.

Cliciwch ar unrhyw rhan or pizza i weld sut y gallwch chwarae eich rhan!

Pizza rhyngweithiol

DeunyddiauHyfforddi NEWYDD ar gyfranogiad y disgybl bellach ar gael!

Mae deunyddiau hyfforddi newydd ar gyfer staff, llywodraethwyr a disgyblion i'w cefnogi wrth ddatblygu llais y disgybl mewn ysgolion mewn ffyrdd effeithiol a hwyl bellach ar gael.

Cymerwch gip arnynt - da chi! Gadewch i ni wybod sut rydych wedi eu defnyddio, a sut maent wedi helpu i newid pethau yn eich ysgol chi!

I ddod o hyd i'r deunyddiau, ewch at:
http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/oedolion/adnoddau/
modiwlau-hyfforddi-ar-gyfer-arweinwyr-uwch-llywodraethwyr-a-staff/

Sandfields a Pontarddulais : Profil Effeithiolrwyd Ysgolion

Llais Y Disgybl

Llais Disgyblion Cymru - Deunyddiau Hyfforddi ar gyfer Oedolion

Safonau Cenedlaethol

Datblygwyd set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru sy’n cynorthwyo sefydliadau i ddilyn arferion da pan fyddant yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau. Mae Pecyn Hunan-asesu Safonau Cenedlaethol wedi’i ddatblygu hefyd a'i dreialu mewn ysgolion yng Nghymru
http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/oedolion/amdanon-ni/beth-yw-cyfranogi/

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)' 2011

Cafodd ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)' 2011 gefnogaeth unfrydol gan bob plaid pan gafodd ei basio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011. Rhoddwyd Cymeradwyaeth Frenhinol iddo ar 16 Mawrth 2011 a daeth i rym ar 16 Mai 2011.

Mae’r Mesur yn cryfhau’r dull gweithredu seiliedig ar hawliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i wneud polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac yn adeiladu ar y dull hwnnw.

Mae’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r ymrwymiadau a nodir yn y Confensiwn a’i brotocolau dewisol. Cyflawnir y gwaith o weithredu’r dyletswyddau a nodir yn y Mesur mewn dau gam, y cyntaf ym mis Mai 2012 a’r ail ym mis Mai 2014. I gael rhagor o wybodaeth am y Mesur, ewch i;
http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/2/contents