Cartref | Cysylltwch â ni | Map o'r wefan | English
Cartref > Am FfEY
 
Beth yw'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY)?

Y FfEY yw'r fframwaith polisi cyffredinol sy'n ceisio trawsnewid safonau a darpariaeth addysg yng Nghymru yn ystod y degawd nesaf a'r tu hwnt.  Dyma bolisi allweddol Cymru ar gyfer diwygio addysg ac mae pob polisi addysg arall yn gyson ag ef.

Nodau ac amcanion

  • Cyflawni gwell canlyniadau dysgu a lles i bob plentyn a pherson ifanc waeth beth fo'i gefndir economaidd-gymdeithasol;

  • Lleihau'r amrywiadau mewn canlyniadau dysgu o fewn ystafelloedd dosbarth, ysgolion ac awdurdodau lleol a rhyngddynt

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar egwyddorion diwygio ar dair lefel.

  • gwella llythrennedd;

  • gwella rhifedd;

  • lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Cefnogir y blaenoriaethau cenedlaethol hyn gan chwe sbardum allweddol ar gyfer newid:

  • defnyddio data’n effeithiol;

  • cryfhau addysgu a dysgu drwy ddatblygu model cenedlaethol cydlynus sy’n cyd-gysylltu datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a safonau proffesiynol;

  • cryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel yn yr ysgolion a’r awdurdodau lleol drwy ddatblygu arweinyddiaeth drwy addasu a chanolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth;

  • sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol mewn, rhwng ac ar draws ysgolion;

  • egluro atebolrwydd ysgolion, llywodraethwyr, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad;

  • datblygu adnoddau mewn ysgolion, ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae partneriaid allweddol wedi bod yn cydweithio i drefnu sut y gallwn sicrhau y bydd y FfEY yn llwyddo yng Nghymru. Mae ein cynllun wedi'i amlinellu yn y ddogfen Datblygu System Genedlaethol ar gyfer Addysg yng Nghymru drwy Wreiddio’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.

Dogfen Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion

Partneriaid